Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:10 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Helen Birtwhistle, Director, Welsh NHS Confederation Dr Andrew Goodall, Chief Executive of Aneurin Bevan Health Board Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Mark Jeffs, Wales Audit Office Andy Phillips, Performance Specialist, Wales Audit Office |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Leanne Wood. Roedd Lindsay Whittle yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Darlun o wasanaethau cyhoeddus - tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Pwyntiau gweithredu:
Cytunodd Conffederasiwn GIG Cymru i ddarparu’r hyn a ganlyn:
· Manylion am yr arian ychwanegol a ryddhawyd o gyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Fyrddau Iechyd Lleol dros y tair blynedd nesaf.
· Rhagor o wybodaeth am lle y gwnaed arbedion ariannol arwyddocaol a lle y llwyddwyd i leihau costau’n sylweddol gan fyrddau iechyd unigol.
3. Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfranogiad y cyhoedd o ran ailgylchu gwastraff
3.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac Andy Phillips, Arbenigwr Perfformiad, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff.
3.2 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
3.3 Cytunodd y Cynghorydd Cyfreithiol i ddarparu nodyn ar gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Eitem 5.
5. Trafod opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfranogiad y cyhoedd o ran ailgylchu gwastraff
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff.
6. Papur i’w nodi
6.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2012.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.